Mae aelodau Sculpture Cymru yn ymwneud â
natur gorfforol ac arferion cerflunwaith. Maent
yn ymgysylltu ag amrywiaeth o gyfryngau, fel pren, carreg, efydd, haearn a
chyfryngau cymysg, gan ddefnyddio prosesau amrywiol fel cerfio, nyddu a
chastio.
Mae eu holl arbrofi â
deunyddiau o’u dewis yn cynnig ffyrdd o fynd i’r afael â materion yn ymwneud
â chynulleidfa, cymuned, ffynhonnell a phwysigrwydd bywyd bob dydd, a
ddehonglir fel ffynhonnell, ysbrydoliaeth a chyfeirbwynt. Mae’r grŵp yn
ystyried cerflunwaith yn fath o gelfyddyd sy’n croesi disgyblaethau, sy’n
addas i arbrofi gyda ffyrdd newydd, technolegau newydd a dulliau newydd.
Mae’r wefan yn cynnwys cofnod o’r
blynyddoedd ers 2000, gan ddangos y cyfraniad y mae Sculpture Cymru wedi’i
wneud at arferion celf yng Nghymru.
Mae’r grŵp yn
ardystio gweledigaeth Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer y celfyddydau yng
Nghymru yn eu dogfen ‘Inspire:
Make, Reach, Sustain’. Mae
gweithgareddau aelodau Sculpture Cymru, yng Nghymru a thramor, wedi bod yn
bwysig nid yn unig ar gyfer hyrwyddo’r gelfyddyd i gynulleidfa gynyddol, ond
hefyd i greu cyd-destun ar gyfer cerflunwyr yng Nghymru.